|
||
|
|
||
|
||
|
Atal Troseddau |
||
|
Annwyl Breswylwyr, Diolch byth, mae troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol a adroddir yn isel yng nghymunedau Sector Plismona Gorseinon. Fodd bynnag, yn anffodus nid yw'r rhai sy'n ymwneud â throseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cymryd seibiant dros yr ŵyl. Dim ond atgoffa yw'r neges hon o rai awgrymiadau atal troseddu i gadw'ch cartrefi a'ch eiddo yn ddiogel. · Cofiwch sicrhau bod holl ddrysau a ffenestri eich cartrefi, siediau ac adeiladau allanol wedi'u cloi a'u diogelu gyda'r holl eiddo gwerthfawr wedi'i gadw allan o'r golwg. · Os oes gennych larymau neu oleuadau diogelwch, gwnewch yn siŵr eu bod mewn cyflwr gweithio da ac wedi'u troi ymlaen pan fo angen · Cloi neu atal cerbydau rhag symud. · Lle bo modd, marciwch eiddo gwerthfawr yn weledol gan fod hyn nid yn unig yn atal lladron ond gall gynorthwyo i adfer a dychwelyd eiddo os caiff ei ddwyn. Yn olaf, byddwch yn wyliadwrus ac rhowch wybod am unrhyw ddigwyddiadau amheus naill ai drwy 101 neu drwy ddefnyddio'r porth adrodd ar-lein ar Wefan De Cymru. Mewn unrhyw argyfwng, ffoniwch 999. Mae eich Tîm Plismona Cymdogaeth lleol wedi ymrwymo i gadw eich cymunedau'n ddiogel a byddant yn cynnal nifer o ddigwyddiadau yn y Flwyddyn Newydd ac rydym yn gobeithio eich gweld ynddynt. Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bawb yng Ngorsaf Heddlu Gorseinon.
| ||
Reply to this message | ||
|
|







